Arglwydd, arwain trwy’r anialwch

 


Arglwydd, arwain trwy’r anialwch,
Fi bererin gwael ei wedd,
Nad oes ynof nerth na bywyd
Fel yn gorwedd yn y bedd:
Hollalluog, Hollalluog
Ydyw’r Un a’m cwyd i’r lan,
Ydyw’r Un a’m cwyd i’r lan.


Colofn dân rho’r nos i’m harwain,
A rho’r golofn niwl y dydd;
Dal fi pan bwy’n teithio’r manau
Geirwon yn fy ffordd y sydd:
Rho i mi fanna, rho i mi fanna,
Fel na bwyf yn llwfrhau
Fel na bwyf yn llwfrhau.


Agor y ffynhonnau melys
sydd yn tarddu o’r Graig i maes;
‘r hyd yr anial mawr canlyned;
Afon iachawdwriaeth gras;
Rho im hynny , Rho im hynny:
dim i mi ond dy fwynhau
dim i mi ond dy fwynhau.


Pan bwy’n myned trwy’’r Iorddonen
Angeu creulon yn ei rym,
Ti est trwyddi gynt dy hunan,
P’am yr ofnaf bellach ddim?
Buddugoliaeth, buddugoliaeth,
Gwna imi waeddi yn y llif
Gwna imi waeddi yn y llif!


Ymddiriedaf yn dy allu,
Mawr yw’’r gwaith a wnest erioed:
Ti gest angau, ti gest uffern,
Ti gest Satan dan dy droed:
Pen Calfaria, pen Calfaria,
Nac aed hwnw byth o’m cof
Nac aed hwnw byth o’m cof.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *