Rwy’n caru dweud yr hanes
‘Rwy’n caru dweud yr hanes,
Am fawrion bethau’r nef;
Am Iesu a’i ogoniant,
A’i ryfedd gariad Ef;
‘Rwy’n caru gweud yr hanes,
Hen hanes cariad drud,
Mae’n llanw ‘nymuniadau
Mae’n hollol dwyn fy mryd.
Ref
Rwy’n caru dweud yr hanes,
Ac yn y nef yn gynnes
Caf ddweud yr
hen, hen hanes
Am Iesu a’i werthfawr waed.
‘Rwy’n caru dweud yr hanes,
Mwy rhyfedd yw y gwaith
Na ddim erioed a welwyd
Trwy nef a’r ddaear faith;
‘Rwy’n caru dweud yr hanes,
O gymaint wnaeth i mi!
A thyna pam ‘rwy’n caru
Ei adrodd wrthyt ti.
‘Rwy’n caru dweud yr hanes,
Mor felys yw i’m bryd!
Bob tro ‘rwyf yn ei adrodd
Melysach yw o hyd;
‘Rwy’n caru dweud yr hanes
Wrth rai na chlywsant sôn
Am ffordd yr iachawdwriaeth,
Trwy werthfawr
waed yr Oen.
‘Rwy’n caru dweud yr hanes,
Mae’r rhai yn awr a’i gŵyr
Mewn syched eto’n gwrando,
Heb flino fore a hwyr;
A phan yr af i’r nefoedd,
Y newydd, newydd gân
A fydd yr hen, hen hanes
Oedd annwyl im’ o’r bla’n.